Budd-daliadau yng Nghymru:opsiynau ar gyfer gwell cyflwyniad
Gweler yn atodedig yr ymateb i gais am dystiolaeth o Gyngor Abertawe gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
1. Dadleuon o blaid ac yn erbyn datganoli budd-daliadau lles
1.1. Dadleuon o blaid datganoli budd-daliadau lles
1.1.1. Bydd cyfle i gydbwyso materion sy'n benodol i Gymru'n well, a mynd i'r afael â'r materion hyn, er enghraifft lefelau uchel o anableddau a diweithdra mewn ardaloedd diwydiannol blaenorol. Ar hyn o bryd, gwleidyddion yn San Steffan sy'n gwneud penderfyniadau, er nad oes ganddynt lawer o wybodaeth am yr effaith y mae eu penderfyniadau'n ei chael.
1.1.2. Bydd cael gwybodaeth leol am y materion yn hwyluso'r system decach sy'n canolbwyntio'n fwy ar y materion i'w sefydlu.
1.1.3. Potensial i gyfuno gwasanaethau a ddarperir yn lleol/rhanbarthol, yn ogystal â budd-daliadau lles, er mwyn gwella effeithlonrwydd a safon i dderbynwyr.
1.1.4. Bydd cyfle i allu dylunio system nawdd cymdeithasol ag ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y person, a chael gwared ar y stigma a'r rhagfarn y mae'r rheiny sy'n hawlio budd-daliadau yn eu hwynebu drwy newid canfyddiadau bod yr hawl i nawdd cymdeithasol yn hawl ddynol.
1.1.5. Mae budd-daliadau lles wedi cael eu rheoli gan Gynulliad Gogledd Iwerddon ers 1998, a chan Senedd yr Alban bellach.
1.2. Dadleuon yn erbyn datganoli budd-daliadau lles
1.2.1. Aneffeithlonrwydd posib a dyblygu gwaith gan fod cysylltiad agos rhwng y polisi lles a meysydd polisi cyffredin eraill, megis cyfraith cyflogaeth.
1.2.2. Mae'r rheiny y mae digwyddiadau andwyol yn effeithio arnynt yn debygol o gael eu trin yn wahanol, gan ddibynnu ar ble maent yn byw yn y DU, a gallai hyn effeithio ar gymunedau gan y gallai'r rheiny sy'n wynebu anfantais gael eu trin yn annheg.
1.2.3. Lleihau'r gefnogaeth ariannol sydd ar gael os bydd digwyddiad andwyol sy'n effeithio ar breswylwyr yng Nghymru ond nid yng ngweddill y DU.
1.2.4. Effaith ar gyllidebau - a symud o system nawdd cymdeithasol dan arweiniad y galw i system dan arweiniad cyllidebau (e.e. Budd-dal Treth y Cyngor i Ostyngiad Treth y Cyngor).
1.2.5. Pryder y bydd cyllid ar gyfer gwasanaethau cyngor annibynnol yn cael ei dorri er mwyn ariannu system budd-daliadau lles datganoledig.
1.2.6. Ar hyn o bryd, efallai bydd rhaid i ymgeiswyr budd-dal hawlio'u cefnogaeth o nifer o sefydliadau/leoliadau. Gan ddibynnu ar y trefniadau sydd ar waith, gallai datganoli budd-daliadau olygu bod mwy o waith gweinyddol i gwsmeriaid ei gwblhau, a allai fod yn groes i'r ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y person yr hoffem ni ei gweld yn cael ei datblygu.
2. Gwersi a ddysgwyd drwy ddatganoli rhai pwerau nawdd cymdeithasol i'r Alban
3. Opsiynau ar gyfer dulliau gwahanol o ddatganoli (h.y. hyblygrwydd o ran Credyd Cynhwysol, datganoli budd-daliadau penodol, y gallu i greu budd-daliadau newydd etc.);
3.1.Hyblygrwydd o ran Credyd Cynhwysol
3.1.1. Mae nifer o broblemau gyda'r budd-dal hwn, ac maent yn cael effaith niweidiol ar unigolion. Fodd bynnag, heb ddatganoli'r budd-dal cyfan, byddai'n anodd datganoli rhai o'r cyfrifoldebau. Mae Trefniadau Talu Eraill yn darparu ffyrdd o fod yn hyblyg o ran cyfnodau taliadau Credyd Cynhwysol; taliadau uniongyrchol i landlordiaid a thaliadau a rennir i barau - gallai'r rhain fod yn hawl gyda'r opsiwn o newid i'r 'drefn' bresennol.
3.1.2. Gellid dileu costau gofal plant o'r cyfrifiad Credyd Cynhwysol a'u cysylltu â'r ddarpariaeth gofal plant am ddim bresennol i blant rhwng 3 a 4 oed, a fyddai'n ei wneud yn haws i rieni yn hytrach na'u gorfodi i ddefnyddio darpariaethau gwahanol.
3.1.3. Gellid hefyd cael gwared ar yr elfen 'Cost Tai' o'r cyfrifiad Credyd Cynhwysol, a dychwelyd y cyfrifoldeb am ariannu hyn i awdurdodau lleol.
3.2.Datganoli budd-daliadau penodol
3.2.1. Mae cysylltiad clir rhwng rhai o'r gwasanaethau a ddarperir yn lleol a rhai budd-daliadau lles (e.e. darparu gofal personol a budd-daliadau anabledd). Byddai'n annheg ac yn anghyfiawn i ddatganoli un o'r budd-daliadau anabledd heb ddatganoli pob un ohonynt, gan y gallai pensiynwyr dderbyn unrhyw un ohonynt. Os caiff y budd-daliadau hyn eu datganoli, mae'n rhaid derbyn mai eu pwrpas yw darparu cymorth ariannol ychwanegol er mwyn talu am y gost o fyw â salwch tymor hir neu anabledd, ac ni ddylid eu defnyddio i ymdrin â'r diffyg ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n annoeth. Trwy gael gwared ar bremiymau anabledd Credyd Cynhwysol, bydd gan y mwyafrif o bobl anabl neu sâl lai o arian i fyw, a bydd cael gwared ar fudd-daliadau anabledd sy'n helpu i dalu am ofal personol yn effeithio ar y gallu i fyw'n annibynnol, gan na fydd gan unigolion fodd ariannol o dalu'r costau ychwanegol, megis gwres, golchi, glanhau a garddio ychwanegol, etc. Mae hefyd yn debygol o gynyddu cost gwasanaethau a'r galw arnynt gan y bydd mwy o hawlwyr yn methu talu am gymhorthdal, cyfarpar neu wasanaethau preifat, sy'n gwrthdaro â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
3.2.2. Gellid datganoli asesiadau meddygol ar gyfer budd-daliadau anabledd a salwch, a rhoi cyllid i'r gwasanaeth iechyd sydd â mynediad at gofnodion hawlwyr, er mwyn cynnal asesiad mwy cywir o ran eu hanghenion.
3.3.Y gallu i greu budd-daliadau newydd
3.3.1. Modelwyd y wladwriaeth les yn wreiddiol ar system yswiriant yr oedd pawb yn cyfrannu ati yn y gwaith, ac roedd modd tynnu arian yn ystod cyfnod o angen. Roedd budd-daliadau cyfrannol yn rhan sylweddol o'r system fudd-daliadau, ac maent wedi cael eu gwanhau a'u lleihau'n rheolaidd. Mae hawlwyr a oedd yn talu yswiriant gwladol bellach yn derbyn yr un swm o fudd-daliadau â'r rheiny sydd heb dalu, a gallant hefyd golli budd-daliadau ymylol, gan olygu eu bod mewn sefyllfa waeth. Caiff rhai gweithwyr eu hatal rhag cyfrannu i'r cynllun Yswiriant Gwladol gan fod ganddynt sawl swydd, â phob un ohonynt yn talu'n is na'r trothwy enillion cenedlaethol, ac ni chaiff eu henillion eu cyfuno, yn wahanol i dreth.
3.3.2. Rhoi cydnabyddiaeth go iawn i ofalwyr a'r arbedion maent yn eu darparu i'r gymdeithas trwy greu taliad ychwanegol i ofalwyr a ddiystyrir at ddibenion budd-daliadau prawf modd. Ar hyn o bryd, telir lwfans gofalwr gwerth £64.60 yr wythnos (2018/19) am 35 awr o ofal yr wythnos, sy'n cyfateb i £1.85 yr awr. Nid oes modd i nifer mawr o ofalwyr weithio, ac felly mae'r budd-dal hwn yn cael ei ystyried yn incwm, gan felly leihau unrhyw fudd-dal ariannol i £36 yr wythnos (2018/19) sef £1.03 yr awr.
3.3.3. Byddai angen ystyried a fyddai unrhyw fudd-daliadau newydd a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru'n darparu incwm ychwanegol i'r derbynnydd, heb arwain at ostyngiad awtomatig yn eu hawl i fudd-daliadau eraill, neu eu henillion ar ôl treth os ydynt yn gweithio. Hefyd, bydd angen addasu'r terfyn ar fudd-daliadau er mwyn darparu ar gyfer unrhyw fudd-daliadau ychwanegol y gallai Llywodraeth Cymru eu darparu. Yn ôl pob tebyg, byddai angen i Lywodraeth y DU gytuno i anwybyddu'r budd-daliadau hynny yng Nghymru wrth ystyried a ddylid rhoi'r terfyn ar waith.
4.
Ystyried datganoli'n ymarferol (h.y. y goblygiadau
ariannol, integreiddio systemau wedi'u datganoli a heb eu
datganoli, isadeiledd cyflwyno etc.);
4.1.Pwy fydd yn gyfrifol am swyddogaethau gweinyddol yr Adran Gwaith a Phensiynau e.e. gwneud penderfyniadau, gwneud taliadau?
4.2.A fydd y Gwasanaeth Tribiwnlys yn parhau i ymdrin ag apeliadau? Bydd angen i Lywodraeth Cymru benderfynu a yw am gytuno ar bartneriaeth gyflwyno â'r Adran Gwaith a Phensiynau neu sefydlu trefniadau ar wahân yng Nghymru.
4.3.A fydd y llywodraeth ganolog yn ariannu unrhyw fudd-daliadau wedi'u datganoli (gan gynnwys datblygu a chynnal a chadw meddalwedd) yn llawn, neu a fydd terfyn yn cael ei osod ar y gyllideb cyn iddi gael ei lleihau, sy'n debygol o effeithio ar awdurdodau lleol?
4.4.Er mwyn gweinyddu unrhyw fudd-dal, mae angen mynediad
at feddalwedd gyfrifiadurol ddynodedig, deddfwriaeth glir ac
arweiniad cliriach. Hefyd, mae'n rhaid rhoi materion ymarferol
eraill ar waith, megis prosesau hawlio syml a synhwyrol, a ffordd o
ddelio â chwynion. Oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o adnoddau
a phrofiad i fynd i'r afael â'r anghenion hyn yn
ddigonol?
Er enghraifft, nifer cymharol fach o gwmnïau'n unig sydd gan y
farchnad fudd-daliadau, ac ar hyn o bryd maent yn gweithio'n agos
gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod gan eu meddalwedd y
gallu i ymdrin â'r budd-daliadau amrywiol sydd ar gael, a'r
newidiadau o ran rheolau cymhwysedd. Yn gyffredinol, mae'r Adran
Gwaith a Phensiynau hefyd yn ariannu costau datblygu'r feddalwedd
honno. Bydd angen i Lywodraeth Cymru ddyblygu'r trefniad hwn ond
hefyd sicrhau y rhoddir amser digonol cyn i ddeddfwriaeth gael ei
rhoi ar waith er mwyn i'r cwmnïau ddiwygio'r feddalwedd. Ni
waeth pwy sy'n gweinyddu'r budd-dall, mae angen amser rhesymol
hefyd i roi arferion waith addas yn eu lle. Mae diffygion cyson y
broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol yn dystiolaeth glir o ba mor
anodd y gallai fod i wneud hyn, hyd yn oed i sefydliad mawr fel yr
Adran Gwaith a Phensiynau, sy'n gallu rhoi adnoddau sylweddol ar
gyfer proses o'r fath. Mae difetha enw da'r Adran Gwaith a
Phensiynau wedi bod yn broblem mawr. Bydd Llywodraeth Cymru'n
wynebu'r un perygl, fel y bydd awdurdodau lleol, os yw'r gwaith o
weinyddu budd-daliadau datganoledig yn cael ei roi
iddynt.
4.5.Pe bai iechyd a lles dinasyddion yn gwella drwy bolisïau eraill, a fyddai'r gefnogaeth ariannol a ddarperir drwy fudd-daliadau datganedig yn gostwng neu'n aros yr un peth er mwyn galluogi buddsoddi mewn meysydd eraill?
5. Yr egwyddorion a allai fod yn sail i gyflwyno budd-daliadau yng Nghymru.
5.1.Byddai angen ystyried y risgiau: maint y boblogaeth; y tebygolrwydd o ddigwyddiad andwyol yn digwydd (e.e. Brexit a'r effaith ar Gymru); nifer yr hawlwyr; swm unrhyw daliad; y gost weinyddol; prosesu a gwneud penderfyniadau (a derbyn na fydd pob penderfyniad yn iawn, a galluogi rhoi proses herio effeithiol ar waith); hyfforddi staff.